Image for Her a Hawl Cyfieithu Dramau : Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere

Her a Hawl Cyfieithu Dramau : Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere

Part of the Y meddwl a'r dychymyg Cymreig series
See all formats and editions

Dyma'r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri'r ddrama, sef Saunders Lewis.

Mae ei gyfieithiadau o weithiau'r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd.

Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a'r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocad hyn fel sail i'w waith cyfieithu.

Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rol y cyfieithydd ym myd y theatr - pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i'r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.

Read More
Available
£8.49 Save 15.00%
RRP £9.99
Add Line Customisation
Usually dispatched within 2 weeks
Add to List
Product Details
University of Wales Press
1786830949 / 9781786830944
Paperback / softback
15/07/2017
United Kingdom
English
288 pages, No
138 x 216 mm
General (US: Trade) Learn More