Geirfau’r Fflyd, 1632-1633 by Parry Owen, Ann (9781837720545) | Browns Books
Image for Geirfau’r Fflyd, 1632-1633

Geirfau’r Fflyd, 1632-1633 : Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau'r cartref, crefftau, amaeth a byd natur

See all formats and editions

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd.

Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi.

Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif.

Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y ty a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar.

Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gwr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Read More
Available
£20.00 Save 20.00%
RRP £25.00
Add Line Customisation
2 in stock Need More ?
Add to List
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1837720541 / 9781837720545
Hardback
15/05/2023
United Kingdom
Welsh
540 pages, Not illustrated
138 x 216 mm

We have stock available for immediate despatch. However it is unknown when or if additional stock will become available.