Image for Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

See all formats and editions

Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry.

Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol.

Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol.

Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur.

Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£9.99
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786830361 / 9781786830364
eBook (EPUB)
891.662
27/04/2017
Welsh
148 pages
Copy: 20%; print: 20%
Derived record based on unviewed print version record.