Image for Henry Richard: Heddychwr a Gwladgarwr

Henry Richard: Heddychwr a Gwladgarwr

Part of the Dawn dweud series
See all formats and editions

Bron nad aeth enw Henry Richard yn angof erbyn heddiw, eto yn ail hanner y 19eg ganrif ef oedd Cymro enwocaf ei gyfnod, a'i enw'n adnabyddus a pharch iddo ymhlith gwleidyddion ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Dyma'r gyfrol gyflawn gyntaf ers dros canrif i'w hysgrifennu yn y Gymraeg am Henry Richard (1812-88), yr heddychwr a'r gwladgarwr o Dregaron.

Rhoddodd Henry Richard ei stamp ar y mudiad heddwch ym Mhrydain, a chofir amdano fel amddiffynnwr y Cymry yn wyneb ymosodiadau diwylliannol - megis adroddiad y 'Llyfrau Gleision' ar addysg yng Nghymru yn 1847 - a dylanwad yr Eglwys Anglicanaidd.

Bu'n ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch am yn agos i ddeugain mlynedd, gan ddod i amlygrwydd rhyngwladol fel lladmerydd y mudiad heddwch, ac fel ymgyrchydd dros gyflafareddu a diarfogi.

Yn dilyn ei ethol yn aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdar yn 1868, ef yn anad neb a adwaenid fel 'Yr Aelod Dros Gymru', a chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad addysg yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu colegau prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£7.49
Product Details
University of Wales Press
1783162910 / 9781783162918
eBook (EPUB)
15/11/2013
Welsh
236 pages
Copy: 20%; print: 20%