Image for Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Hanes Sefydlu S4C. (Nid Sianel Gyffredin Mohoni!)

Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Hanes Sefydlu S4C. (Nid Sianel Gyffredin Mohoni!) (1st edition.)

Part of the Meddwl A'r Dychymyg Cymreig series
See all formats and editions

Dyma'r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru - Sianel Pedwar Cymru - sy'n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau'r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985.

Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu'n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio'r sialensiau, y llwyddiannau a'r methiannau fu'n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai'n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru.

Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o'r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i'w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i'w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy'n ymddangos yn gynyddol ansicr.

Read More
Available
£9.99
Add Line Customisation
Available on VLeBooks
Add to List
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1783168900 / 9781783168903
eBook (EPUB)
15/07/2016
Welsh
171 pages
Copy: 20%; print: 20%