Image for Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990. (Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen')

Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990. (Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen') (1st edition.)

Part of the Y meddwl a'r dychymyg Cymreig series
See all formats and editions

Dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes.

Mae'n astudiaeth gymharol sy'n dod a gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd - gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse.

Mae'n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne.

Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am 'aralledd' - term sy'n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i'r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol.

Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd a themau megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma'r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol - cymdeithas lle y mae'r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir a seilio hunaniaeth Gymreig ar allu'r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae'r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.

Read More
Available
£9.99
Add Line Customisation
Available on VLeBooks
Add to List
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786831996 / 9781786831996
eBook (EPUB)
15/06/2018
256 pages
Copy: 20%; print: 20%