Image for Ysbryd Morgan: Adferiad Y Meddwl Cymreig

Ysbryd Morgan: Adferiad Y Meddwl Cymreig (1st edition)

See all formats and editions

Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a'i mam yn hen dyddyn y teulu yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf.

Gyda'r byd yn datgymalu o'u cwmpas, ceir cyfle i ddianc i'r dychymyg gyda chymorth Nain, a wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau i Ceridwen - trysorau sy'n ei thywys i gwrdd â chyfres o gymeriadau annisgwyl yn canu am hanesion a syniadau o'r henfyd i'r presennol, ac sy'n agor drws iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei chenedl a'r byd tu hwnt.

Wrth ddilyn yng nghwmni ei chyfeillion hynt yr hyn a enwir yn 'Ysbryd Morgan', daw'n hysbys i Ceridwen fod gobaith i'w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a'i chymdeithas - ond i'w ganfod, mae'n rhaid cysylltu gyda'r gorffennol tra yn dechrau o'r newydd.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£21.24
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786834219 / 9781786834218
eBook (EPUB)
15/12/2020
Welsh
192 pages
Copy: 20%; print: 20%