Image for Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth (1st edition.)

See all formats and editions

Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd?

A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, 'Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'?

Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd?

Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg?

Mae deiliaid 'yr atheistiaeth newydd' yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl - cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o'r naill yn cyfoethogi'n dirnadaeth o gyfoeth y llall.

Dwy ffenestr wahanol sydd yma i'n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy'n tarddu yn ei fwriad a'i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy'n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£12.50
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786831287 / 9781786831286
eBook (EPUB)
25/05/2017
144 pages
Copy: 20%; print: 20%