Image for Cyfres yr Onnen: Yani

Cyfres yr Onnen: Yani

See all formats and editions

Mae Gwawr yn teithio i Awstralia i ymweld a'i thad dros y Nadolig.

Teimladau cymysg sydd ganddi wrth gyfarfod a'i theulu newydd yno.

Ar ol cwrdd a Mani ac Anti Helen daw i ddysgu am draddodiadau, diwylliant a chwedlau lliwgar y wlad.

Ond mae rhyw atgasedd yn berwi o dan yr wyneb a dyw gwawr ddim yn siwr pam.

Mae hi a Mani'n benderfynol o roi stop ar gynllwyn a all dynnu enw Mani drwy'r baw.

Ond rhaid aros tan nos Galan, a'r Gala Flynyddol ar draeth Bondi..."Na.

Plis, syr. Gadwch fi fod. Dwi'n begian yn dawel bach fan hyn yn y duwch chwyslyd, poeth.

Ond dwi'n gallu clywed stomp-stompian ei sgidie lleder trwm, a dwi'n gwbod ei fod e yno.

Yn nesau ato i...Mae 'nghalon i'n curo'n wyllt, wyllt - fel tase aderyn yn sownd mewn 'na, yn chwalu'i adenydd yn erbyn barie caetsh.

Yn trio diengyd mas. Dwi'n gwasgu fy llaw yn erbyn fy ngheg yn galed, galed.

Shhhh. Bydd ddistaw. Dyna ddwedodd Mam. Cuddia'n dawel, dawel, cariad. A bydd popeth yn iawn." (Un o gyfres o wyth nofel wedi eu hanelu at ddarlenwyr da 9 i 13 oed)

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£5.95
Product Details
Y Lolfa
1847711383 / 9781847711380
Paperback / softback
28/07/2009
United Kingdom
128 pages
130 x 195 mm