Image for Creu Dinasyddiaeth i Gymru

Creu Dinasyddiaeth i Gymru : Mewnfudo Rhyngwladol a'r Gymraeg

Part of the Safbwyntiau series
See all formats and editions

Dyma'r gyfrol gyntaf sydd yn ymdrin a mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a'r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol.

Ers dechrau'r ganrif, cafwyd trafodaethau cynyddol am ddyfodol amrywiaeth mewn nifer o wladwriaethau, gan gynnwys Prydain a Chymru.

Mae'r gyfrol hon yn mynd ati i drafod sut y mae llywodraethau ac athronwyr cyfoes wedi ymwrthod ag amlddiwylliannedd tra yn chwilio am ffyrdd newydd o uno pobl trwy iaith a diwylliant.

Wrth drafod y cyd-destun damcaniaethol a pholisi, mae'r gyfrol yn tynnu ar ymchwil empeiraidd gyda mewnfudwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, i ddatgelu safbwyntiau am integreiddio yng Nghymru ac i herio rhagdybiaethau am berthynas mewnfudwyr a'r Gymraeg.

Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i'r brig wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisiau'r Wladwriaeth Brydeinig yn haeru polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog.

Mae'r gyfrol yn awgrymu llwybr posibl i Gymru, felly, sef diffinio dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg ei hun.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£14.44 Save 15.00%
RRP £16.99
Product Details
University of Wales Press
1786835363 / 9781786835369
Paperback / softback
15/04/2020
United Kingdom
Welsh
144 pages, No
138 x 216 mm
Professional & Vocational Learn More