Image for Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft Yr Hanesydd

Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft Yr Hanesydd (Digital Original)

See all formats and editions

MYNEDIAD AGORED: Er mwyn darllen fersiwn ePDF o'r llyfr hwn am ddim, pwyswch y ddolen isod:  https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786838995.pdf
Mae'r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae'r gyfrol yn archwilio a chrynhoi'r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth - yr astudiaeth o ysgrifennu hanes - gyda'r nod o ymgynefino'r darllenydd ag 'offer' yr hanesydd, ac i esbonio'r fethodoleg y tu ôl i ddeongliadau hanesyddol. Mae'r awduron yn tywys y darllenydd ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o'r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ôl-strwythurol, y darostyngol a'r hollfydol, mae'r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£29.99
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786838990 / 9781786838995
eBook (Adobe Pdf)
15/07/2022
Welsh
168 pages
Copy: 20%; print: 20%