Image for Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

See all formats and editions

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L.

Williams yn amlygu nifer o'n credoau fel cenedl, sydd wedi profi'n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt.

Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny.

Ymysg y sawl sy'n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dwr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda'u syniadau pwysicaf wedi'u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy'n cynnig cyflwyniad hygyrch i'r darllenydd.

Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o'r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglyn a grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau.

Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a'r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi'i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach.

Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru.

Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o'n credoau fel cenedl.

Read More
Available
£12.50
Add Line Customisation
Available on VLeBooks
Add to List
Product Details
University of Wales Press
178316882X / 9781783168828
eBook (EPUB)
192
15/07/2016
Welsh
157 pages
Copy: 20%; print: 20%
Derived record based on unviewed print version record.