Image for Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth A'r Seice Cenedlaethol

Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth A'r Seice Cenedlaethol

Part of the Safbwyntiau series
See all formats and editions

Mae'r gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog o'r ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i'r diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun o'r anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai o'r syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglˆyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron i'r argyfwng dirfodol a wynebai'r diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasu'r datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd sy'n parhau'n ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.

Read More
Available
£21.24
Add Line Customisation
Available on VLeBooks
Add to List
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1786834472 / 9781786834478
eBook (EPUB)
192
15/07/2019
Welsh
160 pages
Copy: 20%; print: 20%
Derived record based on unviewed print version record.