Image for Y Gyfraith yn ein Llen

Y Gyfraith yn ein Llen

See all formats and editions

Ar hyd y canrifoedd, bu'r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru.

Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau'r gyfraith.

Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni.

Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llen fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder.

Deuwn hefyd i ddeall priod le'r gyfraith i'n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen.

Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o'r maes ymddangos, ac y mae'n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal a chyfrannu'n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.

Read More
Available
£16.99 Save 15.00%
RRP £19.99
Add Line Customisation
Usually dispatched within 4 weeks
Add to List
Product Details
University of Wales Press
1786834278 / 9781786834270
Paperback / softback
15/06/2019
United Kingdom
Welsh
304 pages, No
138 x 216 mm
Professional & Vocational Learn More